

Llyfryn -
Y cwricwlwm, trefniadaeth yr addysgu a’r dulliau addysgu
Y drefn ynglyn a chwynion / ymgynghori
Plant ag anghenion addysgol arbennig
Targedau cwricwlwm cenedlaethol a chanlyniadau’r ysgol am 2007
Ethos yr ysgol gan gynnwys cyfeiriad at y cytundeb ysgol cartref
Carwn fanteisio ar y cyfle hwn i estyn croeso i chwi yn rieni newydd i Ysgol Bodhyfryd, a’m gobaith yw y bydd eich perthynas a’r Ysgol, drwy’ch plant yn brofiad hapus a gwerthfawr. Yn y Llawlyfr rydych ar fin ei ddarllen, cewch wybodaeth am Bodhyfryd, ei diben a’i hamcanion, ei chwricwlwm, polisiau ac amryfal weithgareddau. Cyflwynaf ef i chwi gan hyderu y bydd yn ganllaw defnyddiol. Awgrymaf i chwi ei ddarllen ochr yn ochr a’n cyhoeddiad arall “Ysgol Bodhyfryd – Gyda’n Gilydd”.
Ysgol Gynradd Gymraeg o dan nawdd yr Awdurdod Addysg Lleol yw Ysgol Bodhyfryd yn darparu ar hyn o bryd ar gyfer tua 300 o ddisgyblion o 3 hyd 11 oed.
Fe sefydlwyd yr ysgol yn y pumdegau ar safle Bodhyfryd nid nepell o ganol y dref, gydag 19 o ddisgyblion. Symudodd yr ysgol i’w safle bresennol (rhan o hen safle’r fyddin yna adran benseiri hen sir Ddinbych) yng nghanol y saithdegau. Cafodd yr ysgol ei hailfodelu a’i ehangu ym 1997/8.
Ar ddechrau’r nawdegau roedd poblogaeth yr ysgol wedi cynyddu cymaint fel yr agorwyd ein chwaer ysgol Plas Coch ym mhen arall y dref er mwyn cymryd tua 200 o’n disgyblion.
Yr ydym yn bwydo Ysgol Morgan Llwyd, yr ysgol Uwchradd Gymraeg lleol, a symudodd i adeilad newydd ym Medi 2000.
Bydd croeso i chwi sy’n rieni i’n disgyblion, neu’r rhai ohonoch sy’n ystyried anfon eich plant i Fodhyfryd, ddod i ymweld a ni unrhyw bryd, er y carem i chwi drefnu hynny gyda ni ymlaen llaw.
Yn olaf, carwn nodi fod y wybodaeth yn y Llawlyfr hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Fodd bynnag, nid yw hynny’n golygu na bydd newidiadau yn y manylion yn ystod y flwyddyn neu mewn blynyddoedd i ddod.
R R JONES
PRIFATHRO GWEITHREDOL
FFORDD BRYNYCABANAU,
WRECSAM LL13 7DA
Ffon: WRECSAM (01978) 351168
Prifathro Mr G W Jones, B.A.
Dirprwy Bennaeth Mr R Jones
Prif Swyddog Dysgu a Chyflawniad Mr H Williams
Tŷ Henblas
Sgwâr y Frenhines
Wrecsam
LL13 8AZ
Cadeirydd y Llywodraethwyr
Mr Siôn Aled Owen
d/o Ysgol Bodhyfryd
Y CWRICWLWM, TREFNIADAETH YR ADDYSGU A’R DULLIAU
ADDYSGU
Ceisir cyflwyno cwricwlwm eang a chytbwys a fydd yn cynnwys gorchmynion y Cwricwlwm
Cenedlaethol a’r Canlyniadau Dymunol ar gyfer Addysg dan 5. Yn fras y mae hyn yn
golygu bod plant yn derbyn addysg sy’n rhoi blaenoriaeth i:-
Iaith
Gwyddoniaeth
Mathemateg
Ond sydd hefyd yn cynnwys:-
Hanes Daearyddiaeth
Dylunio a Thechnoleg Technoleg Gwybodaeth
Addysg Gorfforol Addysg Grefyddol
Celf Cerddoriaeth
Addysg Bersonol a Chymdeithasol
Ac wrth gwrs, elfennau na ellir eu dosbarthu yn ol pynciau:-
Y Cwricwlwm Cymraeg
Addysg Gymdeithasol a Moesol
Yn gyffredinol anelir at waith a fydd yn integreiddio pynciau’r cwricwlwm eang yn enwedig yn y babanod. Rydym yn credu bod hyn yn anoddach wrth i’r gofynion ehangu yn yr Adran Iau ac yma gwelir yr ysgol yn dysgu “blociau” o waith pynciol yn ogystal a’r nesad uchod.
Ar hyn o bryd rhif derbyn safonol yr ysgol yw 60. Mae hyn yn golygu bod gan yr ysgol y cyfleusterau i dderbyn hyd at 60 o blant i bob blwyddyn addysol. Gan yr Awdurdod Addysg Lleol mae’r cyfrifoldeb dros geisiadau ond mae gan yr ysgol bolisi hefyd, gweler manylion pellach yn y llyfryn “Ysgol Bodhyfryd – Gyda’n Gilydd”.
Dylai pob rhiant sy’n dymuno gwneud cais am fynediad i’w plentyn neu blant gysylltu gyda’r ysgol gan wneud cais i siarad gyda’r Pennaeth. Mi fydd o wedyn yn gwneud trefniadau i gyfarfod â’r rhieni er mwyn ateb cwestiynau, esbonio ymhellach y trefniadau derbyn a rhoi cyfle i bawb edrych o gwmpas yr ysgol.
Fel arfer ni dderbynir plant iau o ysgolion Saesneg eu cyfrwng gan fod meistrioli’r Gymraeg yn gynnar mor allweddol i agor drysau addysg gyfrwng Gymraeg.
Er hyn, fe ymdrinir a phob cais yn unigol.
Y DREFN YNGLYN A CHWYNION / YMGYNGHORI
Bydd y Pennaeth neu’r Dirprwy Bennaeth yn fodlon trafod gyda rhieni unrhyw gwynion / bwyntiau a allai ddeillio o unrhyw un o bolisiau’r ysgol yn ymwneud a’r cwricwlwm.
O dan adran 23 Deddf Diwygio Addysg 1988 gall rhieni gyflwyno sylwadau ffurfiol ynglyn a’r cwricwlwm neu unrhyw fater gysylltiedig trwy gysylltu’n ysgrifenedig gyda’r ysgol ac yna gyda’r corff llywodraethol trwy’r Cadeirydd (cyfeiriad yr ysgol) a / neu’r Awdurdod Addysg Lleol (trwy’r Prif Swyddog Dysgu a Chyflawniad, Tŷ Henblas, Sgwâr y Frenhines, Wrecsam).
PLANT AG ANGHENION ADDYSGOL ARBENNIG
Un o amcanion yr ysgol yw i osod y safonau uchaf posib o addysg effeithiol o fewn cwricwlwm cytbwys ar gyfer disgyblion o bob gallu. Mae’r amcan yma yr un peth i’r disgyblion mwyaf galluog a’r disgyblion gydag anhawsterau dysgu ac sydd o ganlyniad yn cael sylw mewn datganiadau yn ymwneud ag Anghenion Unigol Arbennig. Mae gan ddisgyblion gydag anghenion arbennig rywbeth positif i gynnig i’r ysgol a’r gymdeithas ac anogir hwy i wneud hynny. Pan ystyrir hynny’n anghenrheidiol, rhoddir cymorth ychwanegol i ddisgyblion, naill ai mewn dosbarth yn cynnwys athro arall, neu cant eu cymryd allan o’r dosbarthiadau arferol am gyfnodau.
Y mae gan yr ysgol Uned Anghenion Arbennig sy’n cael ei staffio gan un athrawes ac un weinyddes. Rhoddir blaenoriaeth i’r plant hynny sydd ar ddatganiad, ond o dro i dro fe ddaw disgyblion eraill at y grwp yma am sesiynau dwys o hyfforddiant. Y mae’r Uned yn medru cymryd 12 disgybl ar y tro.
Cedwir cysylltiad agos rhwng yr ysgol a’r gwahanol asiantau cefnogi y tu fewn i’r Awdurdod, er mwyn cynnig cymorth pryd a lle bydd ei angen.
Y mae’r ysgol yn dilyn canllawiau y Côd Ymarfer Anghenion Arbennig. Fe fydd yr ysgol yn cysylltu’n rheolaidd gyda rhieni’r plant hynny sy’n destun pryder.
Cydgordiwr Anghenion Arbennig yr ysgol yw Mrs Helen Davies.
TARGEDAU CWRICWLWM CENEDLAETHOL A CHANLYNIADAU’R YSGOL AM 2007
CYFNOD ALLWEDDOL 1
Targed Canlyniad Cymru
Mathemateg 94% 91% 87%
Gwyddoniaeth 94% 94% 89% &n